Neidio i'r cynnwys

Tutsi

Oddi ar Wicipedia
Tutsi
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithKirundi, kinyarwanda edit this on wikidata
Poblogaeth2,000,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Rhan oBanyarwanda Edit this on Wikidata
GwladwriaethRwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tansanïa, Wganda Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig Affricanaidd yn byw yn Bwrwndi, Rwanda a rhannau o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw'r Tutsi (hefyd Watutsi a Batutsi).

Dywedir fod y Tutsi yn wreiddiol o Ddwyrain Affrica, efallai Ethiopia, a'u bod wedi ymfudo i Rwanda a Bwrwndi yn yr 11g. Yn y 16g, ffurfiwyd teyrnasoedd Tutsi yn yr ardaloedd hyn. Yn draddodiadol, roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Bwrwndi, tra'r oedd yr Hutu yn tyfu cnydau, a dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.

Yn yr 20g, bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn 1994, lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu yn Hil-laddiad Rwanda, a ddechreuodd ar 6 Ebrill pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, a hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.

Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Bwrwndi

[golygu | golygu cod]
Tutsi Hutu Twa
Rwanda 9% 90% 1%
Bwrwndi 16% 83% 1%