Neidio i'r cynnwys

newydd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈnɛu̯.ɨ̞ð/
  • yn y De: /ˈnɛu̯.ɪð/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol newyð o'r Hen Gymraeg neguid o'r Gelteg *nowjos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *néwos a welir hefyd yn y Lladin novus, yr Hen Roeg néos (νέος) a'r Berseg now (نو). Cymharer â'r Gernyweg nowydh, nowedh, y Llydaweg nevez a'r Wyddeleg nua.

Ansoddair

newydd (lluosog: newyddion; cyfartal newydded, cymharol newyddach, eithaf newyddaf)

  1. Rhywbeth a gynhyrchwyd neu a grëwyd yn ddiweddar.
    Rhyddhaodd y band eu halbwm newydd.
  2. Rhywbeth sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
    ‘Mae'r lleidr newydd adael!’ sgrechiodd y wraig.
  3. Rhywbeth sydd heb gael ei ddefnyddio o'r blaen.
    Penderfynais brynu car newydd yn hytrach nag un ail-law.

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau


Enw

newydd

  1. Gwybodaeth diweddar sydd o ddiddordeb; newyddion.
    Fi oedd y person olaf i glywed y newydd fod y dyn wedi marw.

Cyfieithiadau